Cwestiynau

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Beth yw Cymdeithas Budd Cymunedol?

Mae cymdeithas budd cymunedol (CBC) yn strwythur sefydliad sy’n cael ei adnabod gan, a’i gofrestru hefo, yr Awdurdog Ymddygiad Ariannol. Mae’n bodoli i wasanaethu y gymuned trwy ei weithgareddau busnes, yn hytrach na chymdeithasau cydweithredol, sy’n gwasanaethu eu haelodau.

Mae un siâr yn eich gwneud yn aelod o’r CBC.

  • Mae pob aelod yn cael un bleidlais, faint bynnag o gyfranddaliadau sydd ganddynt.
  • Gall unrhyw aelod sefyll i fod yn swyddog yn y gymdeithas.
  • Prif bwrpas y gymdeithas yw i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r OG.
  • Bydd elw ar ôl costau yn mynd tuag at gynorthwyo prosiectau cymunedol.

Mae gan y CBC Glo Asedau sy’n sicrhau fod yr asedau yn eiddo i’r gymuned, ac na allant gael eu rhannu ymysg y cyfranddalwyr (gwelwch Gwestiwn 2).

Beth yw Clo Asedau?

Trwy Gloi Asset Gwesty Cymunedol Owain Glyndŵr Cyf rydym yn sicrhau na all cyfranddalwyr wneud mantais ariannol o waredu’r gwesty yn y dyfodol. Trwy hyn, mae gwerth y fenter i’r gymuned yn cael ei gadarnhau, a diogelu cyfranddalwyr llai.

Er enghraifft,

Pe bai’r OG yn cael ei gwerthu ymhen 10 mlynedd am £1miliwn, fyddai’r cyfranddalwyr ond yn cael eu buddsoddiad gwreiddiol yn ôl, hyd at £500,000. Byddai’r hanner miliwn sy’n weddill (llai costau) yn mynd i Partneriaeth Corwen Partnership i’w weinyddu ar ran y gymuned.

Ga i fuddran am y nghyfranddaliadau?

Nid yw CBC yn talu buddran, ond mae yn gallu talu llog i gyfranddalwyr ar eu buddsoddiad. Mae’r taliadau llog yn gostau gweithredol cyn elw.

Mae rheolau’r gymdeithas yn datgan na all llog fod yn fwy na 5% neu 2% dros y gyfradd sail, prun bynnag sydd uwch.

Fodd bynnag:-

Nid oes sicrwydd o daliadau llog, mae’n benderfyniad i’r pwyllgor rheoli.

Mae’n annhebygol y bydd taliadau llog am o leiaf dair mlynedd, gan y bydd rhaid i unrhyw elw gael ei ail fuddsoddi yn y busnes ac i wella’r cyfleusterau.

As a shareholder will I have a say in how the OG is run?

Bydd y Tim Rheoli Dros Dro yn cyflogi rheolwr cyffredinol i redeg y busnes o ddydd i ddydd cyn gynted ag y bydd y pryniant yn sicr.

O fewn 6 mis, fe elwir Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ble bydd Pwyllgor Rholi’r OGCHL yn cael ei ethol.

Bydd blaenoriaethau’r OG yn cael eu trafod yn y cyfarfod, a bydd croeso i unrhyw gyfranddaliwr sefyll i fod yn aelod o’r Pwyllgor Rheoli.

Rydym yn rhagweld y bydd y pwyllgor rheoli yn cydweithio yn agos hefo’r rheolwr cyffredinol i sicrhau fod y busnes yn rhedeg yn llyfn a fod yna raglen reolaidd o ddigwyddiadau, ynghyd a goruchwylio a threfnu’r gwaith adnewyddu.

Alla i werthu fy nghyfranddaliadau?

Fedrwch chi ddim gwerthu eich cyfranddaliadau ar y farchnad agored e.e. trwy frocer stoc, ond fe allwch eu gwerthu drwy’r tim rheoli i rywun arall, ond dim ond am eu gwerth gwreiddiol o £200.

Ar ôl tair blynedd gallwch ofyn am ad-daliad am eich cyfranddaliad o £200 y cyfranddaliad o elw neu gronfeydd wrth gefn y Gymdeithas ond bydd cytundeb yn ôl disgresiwn y Pwyllgor Rheoli.

Fydd hyn ond yn bosibl os oes cyllid digonol a bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i gyfranddalwyr sydd angen yr arian, neu os yw’r cyfranddaliwr wedi marw (gweler cwestiwn 6).

Is there a business plan?
Be sy’n digwydd i fy nghyfranddaliadau pan ydw i’n marw?

Pan fyddwch yn marw, mae’ch cyfranddaliadau yn rhan o’ch stad. Gall eich ysgutor ofyn i’r cwmni brynu eich cyfranddaliadau (gweler cwestiwn 5).

Neu fe allwch:-

  • Enwebu rhywun i dderbyn eich cyfranddaliadau ar eich marwolaeth pan ydych yn archebu eich cyfranddaliadau (gofynnwch am ffurflen cymynrodd).
  • Enwebu rhywun i dderbyn eich cyfranddaliadau yn y dyfodol.
  • Enwebu’r OGCHL i dderbyn eich cyfranddaliadau i arbed gofynion ariannol ar y gymdeithas (gofynnwch am ffurflen cymynrodd).
Can I buy shares on behalf of others?

Gellwch brynu cyfranddaliadau ar ran oedolyn arall. Rhowch eu manylion ar y ffurflen, a thalwch drostynt.

Gallwch hefyd brynu cyfranddaliadau ar ran plant. Chi fydd y cyfranddaliwr cofrestredig tan y byddant yn 16 mlwydd oed, pan fydd y cyfranddaliadau yn trosglwyddo iddynt hwy.

Rhaid llenwi ffurflen ar wahân i bod pryniant unigol gyda manylion y derbynnydd.

Beth fydd yn digwydd os na chaiff yr OG ei phrynu?

Tra rydym yn hyderus y byddwn yn sicrhau digon o gyllid i brynu’r OG drwy’r cynnig cyfranddaliadau, gellwch fod yn sicr fod eich arian yn ddiogel os na fyddwn yn prynu’r gwesty.

Petai hynny’n digwydd bydd pob ceiniog sydd wedi ei fuddsoddi yn cael ei ddychwelyd i chi.

Pam na chawn ni grantiau i brynu’r OG yn lle cyfranddaliadau?

Mae grantiau ar gyfer prosiectau cymunedol fel hyn ar gael os ydych berchen yr adeilad. Rydym yn bwriadu cynnig am grantiau lle’n bosib ar gyfer adnewyddu’r adeilad a gwella mynediad gan gynnwys adeiladu lifft.

Felly pam ddim cynnig am grantiau i brynu’r adeilad?

Mae llwyddiant tafarndai cymunedol yn ddibynnol iawn ar gefnogaeth eu cymunedau, ac mae’r gefnogaeth yna’r gryfach pan fod aelodau’r gymuned yn berchnogion y busnes. Credwn fod perchnogaeth y gymuned yn hanfodol i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r fenter a’r OG wedi ei brynu gan yn hytrach nag i bobl Corwen.

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Oes llawer o waith adnewyddu’r OG?

Rydym wedi nodi’r canlynol ar gyfer rhan un o’r gwaith adnewyddu, sydd angen ei wneud yn o sydyn ar ôl prynu’r OG:- Fel y ganlyn:-

  • Atgyweirio’r to £21,000
  • · Adnewyddu linteli £1,500
  • Boeleri nwy newydd £20,000
  • Gwelliannau trydanol £5,000
  • Adnewyddu ac agor y bar gwaelod £30,000
  • Creu llety rheolwr £25,000
  • Adnewyddu’r gegin £5,000

Bydd y gost dros £100,000 fydd yn cael ei ariannu drwy’r cynnig cyfranddaliadau, gobeithio. Bydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei gadw wrth gefn, ac yna yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhan dau pan fydd elw’n caniatáu hynny. Ar y cyfan, mae’r OG angen ei foderneiddio yn hytrach na’i adfer, a byddwn yn gwneud hynny heb amharu ar gymeriad yr adeilad.

Fydd rhaid cau’r OG i’w foderneiddio?

Mae perchennog presennol yr OG, Ifor Sion, yn gefnogol iawn i’r fenter, felly rydym yn obeithiol o gael trosglwyddiad rhwydd o’r busnes, ac felly fydd ddim rhaid cau o gwbl.

Mae maint a chynllun yr adeilad yn caniatáu i ni weithio ar un rhan ar y tro, heb amharu gormod ar fusnes y dafarn o ddydd i ddydd. Gall yr ystafelloedd cysgu, er enghraifft, gael eu moderneiddio un llawr ar y tro.

Yn ystod rhan un yr adnewyddu, byddwn yn ail agor y bar gwaelod er mwyn hwyluso’r gwaith fydd yn dilyn.

Os oes angen llety rheolwr ar frys, gall hynny fod yn un o’r stafelloedd gwely, tra bydd fflat rheolwr yn cael ei baratoi. Gallai hyn effeithio elw yn yr haf, felly mae hefyd yn cael ei gynnwys yn rhan un.

Beth yw’r blaenoriaethau wrth foderneiddio?

Tra bydd rhan un ar waith, byddwn yn cynllunio rhan dau a chwilio am grantiau i ariannu’r gwaith.

Ein prif flaenoriaethau ar gyfer rhan dau yw:-

  • Gwella mynediad i gymaint o’r adeilad ag y gallwn, gan gynnwys lifft i’r prif ystafelloedd digwyddiadau a rhai o’r llofftydd.
  • Gwella golwg allanol yr adeilad, efallai drwy fynd yn ôl i’r wneb carreg gwreiddiol, a thrwsio’r ffenestri.
  • Insiwleiddio’r adeilad yn well a chael system wresogi fwy effeithiol i wella ôl troed carbon yr adeilad.

Bydd rhai o’r blaenoriaethau yma’n heriol, o ystyried ei fod yn adeilad rhestredig. Tra byddwn yn sicrhau caniatâd a chyllid byddwn yn symud ymlaen gyda chynlluniau eraill megis ardal well i ysmygwyr, ac ail addurno rhai o’r ystafelloedd digwyddiadau.

Oes ysbryd yn ystafell 13?

Os oes rhywun yn gofyn:- WRTH GWRS! Gallai fod yn dda iawn i fusnes!

Oes dulliau arall o gyllideb?

Mae yna nifer o ffynonellau cyllid yn genedlaethol (e.e. Cronfa Perchnogaeth Gymunedol) ac yn lleol (e.e. arian tyrbinau). Fel sefydliad cymunedol cofrestredig mae gan yr OGCHL gyfle da iawn i gael cyllid os wnawn ni sicrhau fod ein dyheadau yn glir a’n cynllunio yn gadarn ac ein bod yn weithio mewn partneriaeth hefo sefydliadau eraill. Mae cronfeudd megis CPG yn cynnig cyfalaf cyfatebol felly bydd codi’r £200,000 ychwanegol yn ein rhoi mewn sefyllfa gref.

Ein partneriaid hyd yma:-

  • Mae gennym ddau aelod o’r pwyllgor sydd â profiad helaeth o redeg sefydliad cymunedol yn Bootle (SafeRegen).
  • Rydym yn aelodau o Sefydliad Plunkett.
  • Rydym wedi derbyn cylliad a chefnogaeth i gynnal y digwyddiadau lansio gan Cadwyn Clwyd yng Nghorwen.
  • Rydym wedi cychwyn trafodaethau hefo sefydliadau eraith yng Nghymru, megis CWMPAS, CGCG a’r Gronfa Dreftadaeth Bensaerniaeth.
  • Mae ein diddordeb mewn ceisio am gyllid o £200,000 gan y Gronfa Berchnogaeth Gymunedol yn y dyfodol wedi ei dderbyn.

Yn fras, rydym yn hyderus o ddyfodol llewyrchus

Pa mor gadarn yw'r model busnes?

Gyda dros 100 o dafarndai cymunedol yn y DU, dim ond un fethodd oherwydd COVID. elly mae’r model yn amlwg yn un cadarn, gan fod y busnesau yn derbyn cefnogaeth rhagorol gan eu cyfranddalwyr.

Pe bai’r busnes yn methu, byddai’r asedau yn cael eu gwerthu a byddai’r arian a dderbynnir yn cael ei rannu fel a ganlyn:-

  • Talu dyledion.
  • Talu eu harian yn ôl i’r cyfranddalwyr (hyd at £200 y siâr). Nid oes sicrwydd y bydd y cyfranddalwyr yn derbyn unrhyw arian.
  • Os oes arian dros ben, bydd yn cael ei reoli gan Bartneriaeth Corwen er budd y gymuned.

Heb fentro, wnawn ni ddim llwyddo!

Oes Cwestiwn?

Rydym yn deall bod trwy buddsoddi mewn menter gymdeithasol, bydd cwestiynau gennych. Rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych:- cysylltwch heddiw.