Annwyl Gyfranddaliwr,

Croeso i grŵp arbennig o 250 o cyfranddalwyr o gwmni arfaethedig Gwesty Cymunedol Owain Glyndwr Cyf. Diolch anferthol i chi i gyd am eich cefnogaeth ar ran grŵp “Achub yr OG”. Oherwydd eich caredigrwydd, gallaf nawr gyhoeddi fod y cynnig cyfranddaliadau wedi codi £164,600 tuag at y pris prynu o £300,000.

Rydym eisoes wedi cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb i’r Gronfa Berchnogaeth Gymunedol (Y Gronfa). Y cynllun nawr yw i gyflwyno cais llawn i’r Gronfa am gyllideb. Os byddwn yn llwyddiannus, bydd y cais yn caniatáu i ni gwblhau’r pryniant, a rhoi cronfa refeniw i ni i gynorthwyo a’r flwyddyn gyntaf o fasnachu a rhoi digon i ni gychwyn ar y rhaglen foderneiddio.

Gobeithio y bydd hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa i gwblhau’r pryniant yn gynnar yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yn y cyfamser, mae eich arian cyfranddaliadau chi yn hanfodol i’r broses. Bydd yr arian yn cael ei gadw mewn cyfrif diogel, ac yn cael ei ddefnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer ein cais i’r Gronfa. Mae’n annhebygol iawn, ond pe bae ein cais i’r Gronfa yn methu, a fod ein bod yn rhoi’r gorau i’n cais i brynu’r OG, yna bydd yr holl arian yn cael ei ddychwelyd i chi.

Rydym ni’n obeithiol iawn, fodd bynnag, y bydd ein cais i’r Gronfa yn llwyddiannus gan ein bod yn cyrraedd y meini prawf pwysig. Diolch yn fawr i chi am eich amynedd fel rydym yn cario ymlaen i geisio achub yr OG. Bydd ein partneriaid, y Plunkett Foundation, a CWMPAS, yn ein cynorthwyo gyda’r cais.

Os oes gan unrhyw un ohonoch brofiad o gyflwyno ceisiadau grant, ac yn fodlon helpu, yna gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda. Fe wnawn rannu’r holl newyddion hefo chi wrth i ni weithio’n ffordd drwy’r broses. Unwaith eto, diolch o galon i chi am eich cefnogaeth a’ch amynedd.

Yn gywir,

Dr David Counsell

Cadeirydd