Mae cyfran unigol yn yr OGCHL yn costio £200. Wrth gwrs gobeithiwn y bydd llawer o bobl yn prynu nifer o gyfranddaliadau mewn cynyddiadau o £200. Yr uchafswm o gyfranddaliadau y gall unigolyn eu prynu yw 250 neu £50,000 o werth.

Gall unigolion grwpio gyda’i gilydd i brynu cyfran e.e. pedwar o bobl sy’n cyfrannu £50 ond dim ond un bleidlais fydd gan y grŵp yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Rydyn ni’n gobeithio codi £500,000, digon i sicrhau’r prynu a Cham 1 o foderneiddio. Yn y digwyddiad annhebygol nad ydym yn codi digon o arian i fwrw ymlaen yna bydd pob cyfraniad yn cael ei ddychwelyd yn eu cyfanrwydd.

Gallwch ddod o hyd i ffurflen gais yma.

Cwblhewch hwn a’i ddychwelyd gyda siec am werth eich cyfraniad i Gynnig Cyfranddaliadau OG, ℅ Capel Bethesda, Mill Street, Corwen. LL21 0AU. Gallwch hefyd dalu trwy drosglwyddiad BACS i:-

Corwen Partnership – Sort Code 40 18 14 – Account Number 61378309

Taliadau Tramor

IBAN GB64HBUK40181461378309 BIC HBUKGB4127C