Ein Stori Ni

Camwch i mewn i hanes yng Ngwesty Owain
Glyndŵr.

Gyda gwreiddiau’n dyddio nôl i’r 13eg ganrif, mae Gwesty Owain Glyndŵr wedi bod yn lle poblogaidd efo deithwyr a phobl leol ers canrifoedd. Mae’r gwesty yn un o lond llaw o dafarndai coets sy’n weddill ar hyd y llwybr hanesyddol o Lundain i Gaergybi, a mae dal i eistedd yn falch yng nghanol dref hanesyddol Corwen, dim ond ychydig gamau o’r eglwys a’r fynwent hynafol o’r 12fed ganrif.

Dros y canrifoedd, mae’r gwesty wedi cael ei ymestyn mewn sawl cam, gan ychwanegu at ei gymeriad unigryw bob tro. Yn arbennig, dyma oedd safle’r Eisteddfod gyhoeddus gyntaf yng Nghymru yn 1789 — traddodiad o farddoniaeth a cherddoriaeth sydd yn parhau’n fyw heddiw fel rhan annatod o ddiwylliant Cymru.

Ar ôl cyfnod o ddirywiad, prynwyd y gwesty gan y gymuned leol ym mis Medi 2024 gyda chymorth grant gan Lywodraeth y DU. Ers hynny, mae wedi mynd o nerth i nerth, wedi’i adfer yn ofalus i gadw’i dreftadaeth tra’n cynnig holl gyfleusterau lletygarwch modern.

Gall gwesteion fwynhau:

  • Bar lolfa a bwyty clyd, gyda thân boeth — man perffaith i ffoi iddo ar nosweithiau gaeafol.
  • Bar chwaraeon bywiog, lle gallwch ymuno â’r lleolion i gefnogi gemau pêl-droed, rygbi a digwyddiadau mawr eraill.
  • Ystafell swyddogaeth hyblyg, gyda lle i hyd at 80 o westeion — delfrydol ar gyfer digwyddiadau preifat, cyfarfodydd cymunedol, a nosweithiau adloniant byw rheolaidd.
  • Ystafell fwyta breifat ar gyfer hyd at 16 o westeion, ar gael drwy drefniant ymlaen llaw.

P’un a ydych chi yma i archwilio hanes Cymru, mwynhau diwylliant lleol, mynd am dro ym mynyddoedd y Berwyn neu ymlacio mewn lleoliad cynnes a chroesawgar, mae Gwesty Owain Glyndŵr yn cynnig profiad bythgofiadwy.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu.